Hanes

Cyflwyniad

Cyn 1948 mae cofnodion yn cadarnhau fod Ysbytai Gwirfoddol am dros 80 o flynyddoedd wedi eu cynnal ac wedi tyfu trwy ymdrechion gweithwyr gwirfoddol. Ofnai Aneurin Bevan, Gweinidog Iechyd ar y pryd, ar un llaw y byddai hyn yn dod i ben, ac felly apeliodd y byddai gwasanaeth gwirfoddol unffordd neu’r llall yn dal ymlaen wedi’r 5ed o Orffennaf 1948 (sef dyddiad dechrau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Ysbyty’r Parc ym Manceinion)

Yma yng Nghaerfyrddin ‘roedd y gwasanaeth yn cael ei weld mor werthfawr fel bod “Cymdeithas Cyfeillion yr Ysbyty” wedi ei ffurfio i gynorthwyo yr hyn a elwid yn Gymdeithas yr Ysbyty Sirol yn Stryd y Prior yng Nghaerfyrddin. Ei bwrpas oedd :

1. I annog a meithrin diddordeb yng ngwaith yr Ysbyty trwy wasanaeth gwirfoddol a chynhaliaeth.
2. I baratoi mwynderau a chysuroni gleifion a staff nad oeddynt ar gael o ffynhonnellau swyddogol trwy drefnu ymdrechion I godi araian.
3. I ymgynnal ym mhob ffordd waith cyrff swyddogol a phwyllgorau er budd gwasanaeth yr ysbyty.

Fodd bynnag mewn cyfarfod o Gyfeillion yr Ysbyty ar y 7ed o Chwefror 1949 rhoddwyd cynigiad i newid y teitl i “Gynghrair Cyfeillion yr Ysbyty” ymlaen ac fe’i derbyniwyd.
Ymddangosodd adroddiad yn y “Carmarthen Journal” yn dilyn y cyfarfod yn esbonio i’r cyhoedd yr angen am gynhaliaeth. Rhaid cyfaddef mai araf oedd pethau i gychwyn. Ond ym mis Ebrill 1949 daeth menyw i mewn i’r ysbyty i roi genedigaeth, gan ddisgwyl efeilliaid, ond fe anwyd tripledi. O ganlyniad ‘roedd yn brin o ddillad ar gyfer y trydydd plentyn ac mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar y 24ain o Ebrill cytunodd y Cyfeillion i gyfrannu £2. 8s 3c at gost dilladu’r trydydd plentyn. Bu’r weithred yma yn fodd i’r cyhoedd ddeall gwir waith a bwriadau Cynghrair Cyfeillion yr Ysbyty.

Yng nghyfarfod Hydref 1950 cytunwyd i ymuno a Chymdeithas Cenedlaethol Cynghreiriau Cyfeillion yr Ysbytai. Ni oedd y Cynghrair cyntaf a’r mwyaf yn y wlad ar y pryd. Mae’n werth sylwi yn y fan hon fod ein cyllid ar y pryd hynny yn 130.17 11 gyda £25 yn Nghronfa anrhegion y Nadolig a £5 at gael rhosynau i wardiau yr ysbyty.

Heddiw r’ydym yn dal i brynu anrhegion Nadolig i’r rhai sydd yn anffodus o fod yn gaeth i’r ysbyty dros yr wyl ond erbyn heddiw nid yw’r costau yn dwyn unrhyw gymhariaeth a’r dyddiau gynt.  Pwynt arall o ddiddordeb yn y fan hon yw fod enw y Boneddwr David  T. P. Rogers ymysg y swyddogion ar y pryd fel ysgrifennydd. Daliodd ei swydd hyd 1955.

Gwaith Cynghrair y Cyfeillion yn y blynyddoedd cynnar.

Rhaid cofnodi er fod Cynghrair y Cyfeillion wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd cynnar mai araf iawn oedd y cynnydd.. Er hynny, trwy weithio ar egwyddorion o wella darpariaeth  cyfarpar, gwellla llawer o’r celfi a llawer arall o’r mwynderau ar gyfer staff  y Gweinyddesau a’r staff cadw t,y a thrwy hynny wella gwasanaeth a chysur i’r cleifion bu i’r gynghrair wthio ymlaen.  Yn ystod 1956 ‘roedd mantolen y cyfrifon wedi chwyddo i £206.2.9.   Cofnodir yma fod £50 wedi ei gwario ar fyrddau-gwely.Tua’r un adeg cofnodwyd fod eglwysi a chapelau’r cylch wedi cyrannu £150. Cynnyddodd nifer aelodaeth trwy I aelodau Rotari, y Bwrdd Crwn a’r  Soroptomists ddechrau chwarae rhan amlwg yn ngweithriadau’r Gynghrair.Mae’r cofnodion yn dangos fod anrhegion fel setiau teledu,a  throlis meddygol wedi eu cyflwyno i’r ysbyty, fod cadeiriau’r wardydd wedi eu hail ddodrefnu, a lleni wedi eu trwsio neu eu hadnewyddu. Yn 1959 hysbysodd y Bnr. T. J. Evans fod y Bnr. David Rogers wedi ei bennodi i gynrychioli y Gynghrair gartrefol yng nghyfafod blynyddol y Gymdeithas Genedlaethol.  Yn dilyn hyn anfonwyd llythyr cyffredinol i holl eglwysi a chapeli’r fro, Undebau a busnesau, a thrwy’r wasg i’r boblogaeth yn gyffredinol. Cafodd hyn effaith pendant.  Talwyd diolch arbennig i’r wasg leol am ei chefnogaeth, ac i’r Bnr Emlyn Thomas YH, golygydd y Carmarthen Journal a’r Welshman  yn arbennig am ei gydweithrediad ardderchog. Derbyniodd y Gynghrair lythyr o gymeradwyaeth am eu gweithredoedd oddiwrth Undeb Gweithwyr y Siopau ac Aelodau Cyfathrachol.  Cofnodir fod llawer o gyn gleifion wedi anfon rhoddion personol oherwydd y gwasanaeth o radd uchel a dderbyniwyd ganddynt. Mae’r Bnr David Rogers mewn un adroddiad yn cofnodi  un weithred, “Rhoddwyd darlun ardderchog i Miss Negus o Heol Dwr Fach, Caefyrddin i gofio am ei rhodd o set deledu i Ward y Plant yn Ysbyty Glangwili er cof am ei mham.”

Cofnodir llawer o roddion wedi eu derbyn gan Ward 1, Heol Penylan, Caerfyrddin ac Ysbyty Glangwili, Ysbyty Heol y Prior, ac Ysbyty y Pla Gwyn yn Llanybydder. Yn y dyddiau hyn roeddem hefyd yngofalu am Ysbyty’r Tymbl nes iddynt hwy ffurfio Cynghrair eu hunain.

Aeth gwaith eiddgar pawb yn ei flaen. Bu Metron ac Ysgrifennydd Ysbytai Caerfyrddin o gymorth mawr i Gynghrair y Cyfeillion ac yn dilyn apel y Bnr David Rogers a’r Bnr T. J. Evans M.B.E. ( a gyhoeddodd lyfr dan y teitl Golden Strands ) mae’n werth cofnodi fod y mantolen yn darllen yn awr £1393. 18. 4 gyda’r Gynghrair yn symud gyda’r amseroedd trwy ddarparu trolis ffon er galluogi’r cleifion i gysylltu o’i gewelyau a’u hanwyliaid gartref. ‘Roedd rhoddion o setiau teledu a radio, cadeiriau olwyn,a chotiau gwely yn dal i ddod i’r cleifion  Gwelais wrth wneud ymchwil fod un rhodd yn cynnwys cadair uchel a phum Beibl Cymraeg a Saesneg at ddefnydd yr ysbyty.

Un dyddiad pwysig yn y chwedegau oedd Mai 1962.  Yn ystod y mis hwn y bu i Glybiau’r Ffermwyr Ieuanc ddechrau chwarae rhan amlwg yng ngweithrediadau Cynghrair y Cyfeillion. Fe wn mai’r bwrdd cyntaf i’w ymweld yn ystod ein ffeiriau gan pob teulu yw bwrdd y C.Ff I.  Mae eu cefnogaeth i ni fel Cynghrair yn arbennig.

Gwasanaeth arall gwerth ei gofio a ddechreuodd yn ystod y 6degau yw’r cyflwyniad te yn ysbyty Heol y Prior  Tra r’oedd y gwragedd yn paratoi y te r’oedd y gwrywod yn mynd a’r cleifion a oedd ar eu traed am drip i draeth Llansteffan.  Yn ystod yr amser yma hefyd y dechreuodd y Gynghrair werthu banneri ar y stryd.

Cododd y gyntaf yn 1961 £88.6.9c.

Yn 1962 codwyd £138.6.1c.

Yn1978 roeddem yn casglu £701

Tra yn 1989 codwyd y swm anrhydeddus o £2550.48. Record!

Heddiw r’ydym yn dal i brynu anrhegion Nadolig i’r rhai sydd yn anffodus o fod yn gaeth i’r ysbyty dros yr wyl ond erbyn heddiw nid yw’r costau yn dwyn unrhyw gymhariaeth a’r dyddiau gynt. Pwynt arall o ddiddordeb yn y fan hon yw fod enw y Boneddwr David T. P. Rogers ymysg y swyddogion ar y pryd fel ysgrifennydd. Daliodd ei swydd hyd 1955.

Gwaith Cynghrair y Cyfeillion yn y blynyddoedd cynnar.

Rhaid cofnodi er fod Cynghrair y Cyfeillion wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd cynnar mai araf iawn oedd y cynnydd.. Er hynny, trwy weithio ar egwyddorion o wella
darpariaeth cyfarpar, gwellla llawer o’r celfi a llawer arall o’r mwynderau ar gyfer staff y Gweinyddesau a’r staff cadw t,y a thrwy hynny wella gwasanaeth a chysur i’r cleifion
bu i’r gynghrair wthio ymlaen. Yn ystod 1956 ‘roedd mantolen y cyfrifon wedi chwyddo i £206.2.9. Cofnodir yma fod £50 wedi ei gwario ar fyrddau-gwely.Tua’r un adeg cofnodwyd fod eglwysi a chapelau’r cylch wedi cyrannu £150. Cynnyddodd nifer aelodaeth trwy I aelodau Rotari, y Bwrdd Crwn a’r Soroptomists ddechrau chwarae rhan amlwg yn ngweithriadau’r Gynghrair.Mae’r cofnodion yn dangos fod anrhegion fel setiau teledu,a throlis meddygol wedi eu cyflwyno i’r ysbyty, fod cadeiriau’r wardydd wedi eu hail ddodrefnu, a lleni wedi eu trwsio neu eu hadnewyddu. Yn 1959 hysbysodd
y Bnr. T. J. Evans fod y Bnr. David Rogers wedi ei bennodi i gynrychioli y Gynghrair gartrefol yng nghyfafod blynyddol y Gymdeithas Genedlaethol. Yn dilyn hyn anfonwyd llythyr cyffredinol i holl eglwysi a chapeli’r fro, Undebau a busnesau, a thrwy’r wasg i’r boblogaeth yn gyffredinol. Cafodd hyn effaith pendant. Talwyd diolch arbennig i’r wasg leol am ei chefnogaeth, ac i’r Bnr Emlyn Thomas YH, golygydd y Carmarthen Journal a’r Welshman yn arbennig am ei gydweithrediad ardderchog. Derbyniodd y Gynghrair lythyr o gymeradwyaeth am eu gweithredoedd oddiwrth Undeb Gweithwyr y Siopau ac
Aelodau Cyfathrachol. Cofnodir fod llawer o gyn gleifion wedi anfon rhoddion personol oherwydd y gwasanaeth o radd uchel a dderbyniwyd ganddynt. Mae’r Bnr David Rogers mewn un adroddiad yn cofnodi un weithred, “Rhoddwyd darlun ardderchog i Miss Negus o Heol Dwr Fach, Caefyrddin i gofio am ei rhodd o set deledu i Ward y Plant yn Ysbyty Glangwili er cof am ei mham.”

Cofnodir llawer o roddion wedi eu derbyn gan Ward 1, Heol Penylan, Caerfyrddin ac Ysbyty Glangwili, Ysbyty Heol y Prior, ac Ysbyty y Pla Gwyn yn Llanybydder. Yn y dyddiau hyn roeddem hefyd yngofalu am Ysbyty’r Tymbl nes iddynt hwy ffurfio Cynghrair eu hunain.
Aeth gwaith eiddgar pawb yn ei flaen. Bu Metron ac Ysgrifennydd Ysbytai Caerfyrddin
o gymorth mawr i Gynghrair y Cyfeillion ac yn dilyn apel y Bnr David Rogers a’r Bnr T. J. Evans M.B.E. ( a gyhoeddodd lyfr dan y teitl Golden Strands ) mae’n werth cofnodi fod y mantolen yn darllen yn awr £1393. 18. 4 gyda’r Gynghrair yn symud gyda’r amseroedd trwy ddarparu trolis ffon er galluogi’r cleifion i gysylltu o’i gewelyau a’u hanwyliaid gartref. ‘Roedd rhoddion o setiau teledu a radio, cadeiriau olwyn,a chotiau gwely yn dal i ddod i’r cleifion Gwelais wrth wneud ymchwil fod un rhodd yn cynnwys cadair uchel a phum Beibl Cymraeg a Saesneg at ddefnydd yr ysbyty.
Un dyddiad pwysig yn y chwedegau oedd Mai 1962. Yn ystod y mis hwn y bu i Glybiau’r Ffermwyr Ieuanc ddechrau chwarae rhan amlwg yng ngweithrediadau Cynghrair y Cyfeillion. Fe wn mai’r bwrdd cyntaf i’w ymweld yn ystod ein ffeiriau gan pob teulu yw bwrdd y C.Ff I. Mae eu cefnogaeth i ni fel Cynghrair yn arbennig.

Cynhaliwyd yr wyl gyntaf yn 1966 ac agorwyd hi gan y maer ar y pryd, y Cyng. D. D. Harries. Cododd hon £1104. Cynhelir yr wyl bob dwy flynedd ac mae wedi bod yn uchafbwynt ar galendr y dre er hynny. Mae’n wir dweud bod y 5degau a’r 6degau yn waith called, ond gyda dyfalbarhad ac ymdrech creodd pwyllgorau’r blynyddoedd hynny
sylfaen a wnaeth y Gynghrair y nerth y mae heddiw. Cofnodaf gyda diolch mai un dyn, y Bnr David Rogers YH a oedd yma o’r cychwyn ac i arwain Cynghrair y Cyfeillion i’r uchelfannau yn y 7degau, yr 8degau a’r 9degau i fyny i 1955 pan ymddeolodd ond a arhosodd fel Llywydd Bywiog am Oes. Yn 1992 gwnaed David yn Aelod o’r Ymerodraeth Brydeinig am ei waith ardderchog yn y gwahanol ysbyttai y bu ynglyn a hwy.

Cynghair y Cyfeillion yn y Blynyddoedd Diwethaf

Mae’n deg cofnodi fod y Gynghrair erbyn y 7degau cynnar wedi sefydlu patrwm o waith sydd yn dal hyd heddiw. Pob blwyddyn fe gynhelid pwyllgorau ar y Llun olaf o’r mis.
‘Roedd aelodau yn mynychu y Gynhadledd Gymru Gyfan a gynhelid yn flynyddol yn y Drenewydd. Mynychwyd hefyd gyfarfodydd Cynghreiriau Cyfeillion Dyfed ac hefyd Gynhadledd Cymdeithas Genedlaethol Cymru a gynhelid yn y gogledd un flwyddyn ac yn y de ar y naill. ‘Roedd aelodau hyn hefyd yn mynychu Cynhadledd y Gymdeithas Genedlaethol yn Llundain a dinasoedd mawrion y dywysogaeth. Ym Mhob cynhadledd cafwyd syniadau ac o’r rhain ennillid nerth ac uchelgais.
Yn 1971 adeiladwyd ystafell ddosbarth i ward Cilgerran ar gost o £6243. Y fenter fwyaf hyd yn hyn. Rhoddwyd sialens i ni gan yr ysbyty i adeiladu pwll hidrotherapi i godi lefel triniaeth y cleifion. ‘Roedd llawer o amheuon, ond eto glynwyd wrth y patrwm o ddyfalbarhad trwy godi arian trwy ddiwrnod gwerthu banneri blynyddol, cyngerdd un flwyddyn, gwyl a raffl y flwyddyn ddilynnol, a bu llwyddiant.
Yn1972 cafodd yr ysbyty y pwll a’i orchudd am gost o £60,000. Nid anghofiwn byth eich cefnogaeth – aelodau’r cyhoedd a llawer o gymdeithasau lleol.
Dilynwyd hyn yn 1974 trwy adeiladu Unedau Hamdden Llys Myddfai am £15,000. Yma y byddai Mr a Mrs Johnny Walker yn treulio oriau dros fisoedd a blynyddoedd yn dwyn losin a chomics i ddifyrru’r plant yn yr Uned – gwasanaetharall Cynghrair y Cyfeillion.
I’r 8degau yn llawn prysurdeb a gwario £15,000 ar Adran Golonoscopi yn 1986.
Yn 1987 prynwyd offer i’r Theatr ar gost o £10,740. Yn yr un flwyddyn gwariwyd £6,500 am offer Llawdriniaeth y Glun.
Yn 1988 rhoddwyd £6,500 i sefydlu Llety Perthnasau i Uned Gofal Arbennig Babanod a agorwyd gan Ysgrinnydd Gwladol Cymru – Y Gwir Anrhydeddus Peter Walker MBE, A.S.
Darfyddodd yr 8degau fel eu cychwyn gyda’r Cyfeillion yn noddi’r Ysbyty gyda Offer Urodynamig am gost o £25,131, a phwyllgor y Gynghrair yn dal i ddilyn yr un patrwm ac yn paratoi i wynebu’r 9degau heb yr un hoe.

Daw hyn a ni hyd at y flwyddyn bresennol 2012/2013.
Hyd ynhyn – arian wedi ei wario neu wedi ei ddosbarthu at bwrcasu fel a ganlyn:-
Offer Cardioleg £2430
Offer uroleg i driniaeth anymatal y bledren – Mr Gana – cost o £10,000
Mewnchwilydd i Sistem Nernio – Mr O’Riordan – £1,600
Cadair Bariatrig arbennig at ddefnydd Ward Preseli – cost £4,750

Cynghrair y Cyfeillion Heddiw

Trwy ddarllen y tudalennau olaf hyn mae yn eglur fod symiau mawr o arian i’w hymdrin.
Tra yr ydym ni yng Nghynghrair y Cyfeillion yn rhoi ein hamser,chwi -aelodau’r cyhoedd sydd yn cyfrannu. Heb eich caredigrwydd a’ch dealldwriaeth byddai ein pwrpas yn ffaelu.
Nid yw pethau wedi newid, ‘rydym yn dal i ddilyn y patrwm a sefydlwyd gan ein rhagflaenwyr – pam newid pan fo’r sistem yn gweithio.
‘Rydym yn ddiolchgar i’r cyhoedd sydd yn ein cynnal yn ein ffeiriau haf a Nadolig ac hefyd wardiau ac adrannau o’r ysbyty sydd yn ein cynorthwyo ar adegau fel hyn.
Cefnogaeth y cyhoedd a dderbyniwn wrth gasglu arian, cynnal raffl ac ambell gyngerdd.
Y cymynroddion niferus, yr arian yn lle blodau y mae llawer o bobl feddylgar yn ei anfon.
Y mae’r caredigrwydd a’r driniaeth foddhaol a roir gan staff yr Ysbyty yn arwain i lawer o roddion a anfonir fel arwydd o ddiolchgarwch i’r Ward/Ysbyty.
Hefyd y rhoddion a ddaw oddiwrth nifer o gapeli ac eglwysi.
Maent i gyd yn cyfrif.
Beth sydd yn rhoi boddhad yw fod yr holl arian a gesglir er budd y cleifion a staff ein Hysbyty.
Carem bwysleisio fod yr holl ymchwil i’r papur hanesyddol hwn grynhoad hyd at y flwyddyn 2005 wedi ei wneud gan un o weithwyr cydnerth ein Cynghrair, sydd ‘nawr wedi ymddeol, sef y Brawd Peter Evans. Tros lawer o flynyddoedd bu yn aelod; bu (ar wahanol adegau) yn Gadeirydd ac Ysgrifennydd cydwybodol. Ar adeg yei ymddeoliad yn 2009 ef oedd ein Swyddog Polisiau, ac ef ynghyd a’r diweddar David Rogers, MBE, Y.H., Llywydd am Oes y Gynghrair oedd ynh gyrifol am y Papur Hanesyddol hwn am ein Cynghrair a adnabyddir heddiw fel Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Glangwili.

Arthur Phillips
Cadeirydd.